Mae mwy na 130,000 o blant yn y DU, yn byw mewn cartrefi lle mae cam-drin domestig risg uchel. Mae plant a phobl ifanc yn fwy ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd nag y mae rhieni'n ei sylweddoli a gall effeithiau cam-drin domestig effeithio arnynt mewn sawl ffordd yn dibynnu ar eu hoedran, eu personoliaeth a'u rhwydwaith cymorth.
Gall diogelwch plant a phobl ifanc sy'n profi cam-drin domestig gael ei danseilio'n ddifrifol o ganlyniad i fyw gyda cham-drin domestig² ac mae pob plentyn sy'n gweld cam-drin domestig yn cael ei gam-drin yn emosiynol Mae 62% o blant sy'n byw mewn cartrefi cam-drin domestig yn cael eu niweidio'n uniongyrchol gan y sawl sy'n cyflawni'r cam-drin, yn ychwanegol at y niwed a achosir gan fod yn dyst i gam-drin eraill¹
Yn aml gall pobl ifanc mor ifanc â 14 oed hefyd ddioddef cam-drin domestig yn eu perthnasoedd eu hunain.
Mae Calan DVS yn cynnig ystod o wasanaethau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi neu sy'n profi cam-drin domestig.