Lleihau’r Risg – cynllunio i ddiogelu
Os ydych chi'n profi cam-drin domestig, bydd angen i chi ystyried lleihau'r risg i chi'ch hun oddi wrth yr unigolyn sy'n cam-drin. Rydym yn argymell eich bod yn ystyried llunio cynllun diogelu. Bydd hyn yn eich helpu i baratoi ymlaen llaw ar gyfer adegau pan allech fod mewn perygl neu os cewch eich cam-drin yn gorfforol neu'n eiriol.
- Cadwch gofnod o ddyddiadau ac amseroedd pob digwyddiad
- Os cawsoch eich brifo, mynnwch sylw meddygol gan yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A & E) neu'ch meddyg teulu. Byddant hwy yn cofnodi eich anafiadau
- Cadwch eich ffôn wedi'i gwefru'n llawn gyda digon o gredyd ynddi bob amser rhag ofn y bydd angen i chi wneud galwadau brys. Cofiwch fod galwadau i'r Heddlu, 999 ac i Linell Gymorth Byw Heb Ofn, 0808 80 10 800 yn rhad ac am ddim
- Dywedwch wrth ffrind, aelod o'r teulu neu rywun rydych yn ymddiried ynddynt am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd
- Cadwch eich pasbort a chopïau o ddogfennau pwysig mewn man diogel (neu gyda ffrind neu berthynas rydych chi'n ymddiried ynddynt)
- Ystyriwch ddweud wrth eich cyflogwr am eich sefyllfa
- Rhowch wybod i'r Heddlu am y trais neu ddifrod troseddol bob amser
- Cysylltwch â ni yn CALAN DVS - gallwn ni eich helpu chi
"Peidiwch â dial - nid yw'n ddiogel."
Os ydych chi'n ofnus, neu mewn perygl, ffoniwch yr Heddlu ar 999
Os ydych chi gartref a'ch bod dan fygythiad neu ymosodiad:
- Arhoswch i ffwrdd o’r gegin (gall y camdriniwr ddod o hyd i arfau, fel cyllyll yno)
- Arhoswch i ffwrdd o ystafelloedd bach neu fannau lle gall y camdriniwr eich trapio
- Ewch i ystafell gyda drws neu ffenestr rhag ofn y cewch gyfle i ddianc
- Ewch i ystafell gyda ffôn fel y gallwch alw am help ac, os yn bosibl, gloi eich ymosodwr allan
- Ffoniwch 999 a gofynnwch am yr Heddlu
- Sicrhewch fod ffrind neu gymydog yn gwybod am y cam-drin rhag ofn y bydd angen i chi eu ffonio neu aros gyda nhw
- Os daw Swyddog Heddlu, dywedwch wrtho / wrthi beth ddigwyddodd a gofalwch na chewch eich gadael gyda'r ymosodwr
- Mynnwch gymorth meddygol os ydych chi wedi'ch brifo neu'ch anafu
- Tynnwch luniau o'r cleisiau neu'r anafiadau
- Rhowch eich bag llaw, allweddi ac arian mewn man diogel y gallwch gyrraedd ato fel y gellir gafael ynddynt ar frys
- Cynlluniwch ble i fynd mewn argyfwng a chael ffordd wahanol o fynd yno
- Cadwch neu dysgwch restr o rifau ffôn pwysig, e.e. uned diogelu’r cyhoedd yr heddlu, gweithiwr allgymorth (outreach), cyfreithiwr, meddyg, ysgol ac ati. Mewn argyfwng deialwch 999 bob amser