Beth yw Ysbrydoli Teuluoedd?
Mae'r Rhaglen ‘Ysbrydoli Teuluoedd’ yn rhaglen asesu ddeg wythnos arloesol a strwythuredig a all helpu i gryfhau a sefydlogi teuluoedd lle mae’n hysbys fod trais a cham-drin domestig ond fod y teulu'n dewis aros gyda'i gilydd.
Nid oes angen i'r teulu fod yn cyd-fyw pan gaiff y teulu eu hatgyfeirio ond rhaid cael rhywfaint o awydd i gymodi o fewn y berthynas yn y dyfodol.
Sut mae'n gweithio?
Cyflwynir y rhaglen mewn dau grŵp ar wahân. Bydd un grŵp o rieni a gafodd eu cam-drin ac un grŵp sydd wedi achosi’r cam-drin yn cael eu cynnal yn gyfochrog.
Mae cynnwys y rhaglenni yr un peth i raddau helaeth ar gyfer y ddau grŵp. Mae'r grwpiau'n cael eu cynnal am ddwy awr bob wythnos. Penderfynir ar amseriad cyflwyno'r grwpiau yn lleol. Gall y rhaglen annog newid cadarnhaol yn y modd y rheolir sefyllfaoedd oedd a sbardunodd ymddygiad ymosodol yn y gorffennol, cyflwyno agweddau gwell at berthnasoedd iach, gwell arferion rhiantu a gwell dealltwriaeth o effeithiau trais domestig ar blant.
Ar ddiwedd y rhaglen gwneir asesiad a bydd y teuluoedd hynny sy'n cwblhau'r rhaglen yn derbyn cynllun gweithredu gyda mewnbwn gan hwyluswyr y cwrs, y partneriaid a gweithiwr proffesiynol arweiniol y teulu.
Bydd y cynllun gweithredu yn cynnwys manylion am y gefnogaeth a / neu ymyrraeth bellach sydd ei angen ar y teulu i leihau effaith trais domestig ar y teulu a’r plant.
Bydd y teuluoedd nad ydynt yn cwblhau'r rhaglen yn cael asesiad o'r gefnogaeth neu'r ymyrraeth sydd ei angen. Gallai hyn gynnwys sawl opsiwn, yn cynnwys cynllunio ar gyfer dianc yn ddiogel gan y fam a'r plant hyd at gychwyn achos cyfreithiol i symud y plant i ofal amgen os yw hynny'n briodol.
Mae'r rhaglen yn hygyrch a thros y cyfnod o 10 wythnos gallwn gynhyrchu adroddiad cynhwysfawr ar y teulu sy'n nodi:
- Lefel y risg a’r math o gam-drin sydd domestig.
- Y potensial ar gyfer newid a'r tebygolrwydd o gymodi.
- Lefel y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar blant y cartref.
- Y gefnogaeth y bydd ei angen ar y teulu i sicrhau dyfodol heb drais.
Pam y cafodd y rhaglen ei chreu?
Crëwyd y rhaglen yn dilyn Adolygiadau Dynladdiad Domestig (Domestic Homicide Reviews) a ddangosodd fod llawer o asiantaethau arbenigol yn wael am nodi ac asesu lefelau risg a dynameg perthnasau. Gan fod ymchwil yn dangos yn glir fod byw gyda thrais domestig yn cael effaith dinistriol ar aelodau'r teulu , roedd angen amlwg i daclo’r mater mewn dull holistaidd, gan ganolbwyntio ar y teulu cyfan.