Cyfleoedd Gwirfoddoli yn Calan DVS

Mae ein gwirfoddolwyr yn chwarae rhan fawr wrth gefnogi ein staff i ddarparu gwasanaethau hanfodol i ddioddefwyr cam-drin domestig. Mae gennym wirfoddolwyr sy'n hwyluso grwpiau cymorth cymheiriaid (peer support), boreau coffi a gweithdai crefft. Mae ein gwirfoddolwyr yn ein cefnogi i sefydlu a chydlynu digwyddiadau ym mhob un o’n ardaloedd gweithredu.
Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i'n helusen ac, yn gyfnewid am eu gwaith gwych, rydyn ni'n darparu hyfforddiant, goruchwyliaeth, cefnogaeth un i un a chyfleoedd i gyfrannu a lleisio barn am ein gwasanaethau. Byddwn hefyd yn talu'ch treuliau i sicrhau nad ydych ar eich colled.
Os hoffech wirfoddoli i Calan, os gwelwch yn dda e-bostiwch: enquiries@calandvs.org.uk
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i'r sefydliad
