Mae elusennau cam-drin domestig wedi ymuno gyda’i gilydd er mwyn cefnogi plant ledled Cymru
Amcangyfrifir bod 133,053 o blant yng Nghymru wedi profi neu wedi bod yn dyst i gam-drin domestig. * Gall y profiadau niweidiol hyn yn ystod plentyndod gael effaith enfawr ar blant a phobl ifanc, ond mae'r opsiynau atgyfeirio yn gyfyngedig oherwydd y diffyg cefnogaeth arbenigol sydd ar gael.
Er mwyn mynd i’r afael â’r angen hwn, a diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru , mae Cymorth i Fenywod Cyfannol Women’s Aid, Calan DVS, Cymorth i Fenywod Caerdydd, Gorwel a DAS Gorllewin Cymru wedi dod ynghyd i gyflwyno’r prosiect Ar Trac i blant 5-16 oed ar draws deg sir yng Nghymru.
Yn dilyn ei lansio ym mis Ebrill bydd Ar Trac yn cefnogi plant a phobl ifanc sy'n cael anawsterau yn eu perthynas â’u teulu a chyfoedion oherwydd iddynt brofi cam-drin domestig. Trwy fynd i'r afael â'r anawsterau hyn ac adeiladu ar gryfderau'r plant, nod y prosiect yw lleihau effaith y cam-drin a gwella lles corfforol a meddyliol yr unigolion wrth iddynt dyfu’n oedolion.
Bydd y prosiect Ar Trac yn cael ei gynnig yng Nghasnewydd, Blaenau Gwent, Caerdydd a'r Fro, Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot, De Powys, Ceredigion, Gogledd Sir Benfro, Gwynedd ac Ynys Môn. Bydd yr ymyriadau yn cynnwys gwaith grŵp a theuluol sy'n briodol i oedran y plant y ogystal â chefnogaeth un i un. Bydd hyn ar sail ymchwil, yr arferion gorau, profiad ac arbenigedd partneriaid y consortiwm, a lleisiau plant a phobl ifanc, er mwyn sicrhau fod y gefnogaeth yn diwallu anghenion unigolion.
Mae’r cynllun Ar Trac yn cael ei ariannu gan Grant Trydydd Sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020 i 2023 a hwn yw'r prosiect cyntaf o'i fath yng Nghymru. Daw â phum asiantaeth cam-drin domestig arbenigol ynghyd i ddarparu dull dan arweiniad consortiwm o gefnogi plant a phobl ifanc.
Bydd cefnogaeth uniongyrchol yn cael ei ddarparu gan bob sefydliad sy’n aelod o’r bartneriaeth. O'r herwydd, defnyddir y llwybrau atgyfeirio (referral) presennol i'r gwasanaethau hyn. Bydd y prosiect yn cael ei gydlynu gan Reolwr Prosiect i sicrhau dull gweithredu cyson a datblygiad priodol ym mhob maes.
Dywedodd Helen Swain, Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Fenywod Cyfannol: “Rydym yn falch iawn o arwain ar y prosiect cyffrous hwn, sydd hefyd yn nodi lansiad y consortiwm hwn o sefydliadau Cymreig ymatebol. Mae gan y partneriaid sy’n rhan o’r cynllun ddealltwriaeth ddofn o'r angen am, ac effaith, cefnogaeth arbenigol ar blant a phobl ifanc a effeithiwyd gan drais domestig. Wrth redeg y prosiect ein blaenoriaeth fydd rhoi llais i blant er mwyn sicrhau fod pob gwasanaeth newydd yn diwallu eu hanghenion. ”
*Fel yr adroddwyd yng nghyhoeddiad Cymorth i Ferched Cymru: Mae Plant yn Bwysig: Mae Plant a Phobl Ifanc yn Profi Trais Domestig Hefyd (2019)