Mae Calan DVS yn Recriwtio ar gyfer Ymddiriedolwyr Newydd
Amdanom ni
Gwasanaethau Trais Domestig Calan (Calan) yw un o’r elusennau cam-drin domestig mwyaf yng Nghymru ac rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i ddod â thrais a cham-drin domestig i ben. Mae’n staff yn credu’n gryf yn yr hyn a wnânt ac yn cynnig gwasanaethau sydd yn fawr eu hangen i gefnogi rhai o’r bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas.
Ffurfiwyd ein gwasanaeth yn 2012 o ganlyniad i uno Cymorth i Fenywod Castell-nedd a Dyffryn Lliw ac ers 2012, mae mudiadau Cymorth i Fenywod eraill wedi ymuno â’r grŵp yn cynnwys Cymorth i Fenywod Maesyfed, Cymorth i Fenywod Pen-y-bont ar Ogwr a Chymorth i Fenywod Rhydaman.
Rydym yn gweithio mewn ardal ddaearyddol fawr ac amrywiol, yn darparu gwasanaethau ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot, De Powys a Rhydaman (Sir Gaerfyrddin).
Mae ein model gwasanaeth yn cynnwys; gwasanaethau trais domestig craidd gan gynnwys lloches i ddioddefwyr benywaidd a'u plant, cefnogaeth yn y gymuned, gwasanaethau galw heibio argyfwng i bawb sy'n dioddef cam-drin domestig, cefnogaeth i blant a phobl ifanc sy'n agored i drais a cham-drin domestig (DVA). Rydym hefyd yn cyflwyno rhaglenni teulu sy'n seiliedig ar drawma sy'n defnyddio dull teulu cyfan lle cydnabyddir bod cam-drin domestig yn gydran.
Un o egwyddorion sylfaenol Calan yw na ddylid gwahaniaethu yn erbyn unrhyw berson oherwydd hil, crefydd, cred, tarddiad cenedlaethol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, oedran, anabledd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth - yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Amdanat ti
Rydym yn edrych i gynyddu ac arallgyfeirio ein Bwrdd Ymddiriedolwyr cyfredol i helpu i yrru ein datblygiad a'n llwyddiant parhaus yn ei flaen. Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn cydweithio'n agos i ddarparu cyfeiriad a gweledigaeth strategol ar gyfer Calan DVS, maent yn cynnig arweinyddiaeth a chefnogaeth i'r Prif Weithredwr i gyflawni ein gweledigaeth o weithio tuag at gymunedau diogel a gwydn heb drais a cham-drin domestig.
Yn ogystal ag ymrwymo'r amser angenrheidiol, bydd gennych weledigaeth strategol, barn annibynnol, y gallu i feddwl yn greadigol a gallu dangos angerdd i ddarparu rhagoriaeth gwasanaeth sy'n anfeirniadol ac yn parchu amrywiaeth.
Cynhelir cyfarfodydd bwrdd llawn a chyfarfodydd is-bwyllgor bob chwarter.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn benodol gan unigolion sydd â chefndir cyfreithiol, codi arian, datblygu busnes, cyllid, cefndiroedd menter gymdeithasol ac arbenigwyr yn ôl profiad. Hoffem i gyfansoddiad y Bwrdd adlewyrchu'r amrywiaeth yn y cleientiaid yr ydym yn eu cefnogi a lle bo hynny'n bosibl, ein galluogi i godi ein proffil trwy greu partneriaethau cryf â sefydliadau y mae eu gwerthoedd yn adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy?
I gael trafodaeth anffurfiol gychwynnol am y rôl ac i drafod y broses ymgeisio, cysylltwch â:
Prif Swyddog Gweithredol - Michelle Whelan: mwhelan@calandvs.org.uk
Cadeirydd y Bwrdd: Shakira Joyner: shakira@hchr.co.uk
Dyddiad cau ceisiadau: Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2020.