Diwrnod ym Mywyd Gweithiwr Cefnogi Lloches (Castell-nedd)

Mae ein gweithwyr cymorth lloches yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi menywod a'u plant sy'n dianc rhag perthynas ymosodol trwy eu helpu i ailadeiladu eu bywydau.
Dyma ddiwrnod nodweddiadol ym mywyd Rebecca Sian Tavender, Gweithiwr Cefnogi Lloches yn ein Lloches Castell-nedd Port Talbot. Meddai Rebecca:
Fy rôl i yw cefnogi cleientiaid a'u teuluoedd yn ystod eu hamser yn ein lloches. Ein nod yw darparu lle diogel iddynt fyw ac ailadeiladu eu bywydau ac i'n cleientiaid wrth symud ymlaen. Rwyf hefyd yn darparu sesiynau cymorth wythnosol 1-1, yn hwyluso grwpiau cymorth ac yn cynnal gweithgareddau i hyrwyddo hunan-barch ac adeiladu ar les emosiynol. Yn ogystal, rwy'n gweithio fel rhan o dîm ar gyfer gwasanaeth brys ar alwad y tu allan i oriau.
Ar ddiwrnod arferol, byddaf yn dod i gysylltiad â'm cleientiaid i gynnal gwiriadau lles a diweddaru cefnogaeth, ac yna galwadau ffôn i asiantaethau allanol, i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol. Mae hefyd yn rhan o fy rôl i reoli, adrodd a gwirio cynnal a chadw adeiladau lloches.
Yr hyn rwy'n ei fwynhau fwyaf am fy rôl yw cefnogi goroeswyr a hwyluso lle diogel iddynt fyw ac ailadeiladu eu bywydau. Y brif her sy'n ein hwynebu yn y rôl hon yw eisiau cefnogi goroeswyr nad ydynt eto'n barod i dderbyn ein cefnogaeth.
Hoffwn ychwanegu fy mod yn teimlo’n freintiedig i weithio fel gweithiwr cymorth lloches ac yn ddiolchgar o gael tîm a theulu gwaith gwych yn Calan DVS. Ni allwn wneud fy swydd i safon mor uchel heb y gefnogaeth i'm cydweithwyr.


