Ar Trac

Mae elusennau cam-drin domestig wedi ymuno gyda’i gilydd er mwyn cefnogi plant ledled Cymru

Amcangyfrifir fod 133,053 o blant yng Nghymru wedi profi neu wedi bod yn dyst i gam-drin domestig1. Gall y profiadau niweidiol hyn yn ystod plentyndod gael effaith enfawr ar blant a phobl ifanc, ond mae'r opsiynau i wella a chael cymorth yn gyfyngedig oherwydd y diffyg cefnogaeth arbenigol sydd ar gael.

Er mwyn mynd i’r afael â’r angen hwn, a diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru , mae Cymorth i Fenywod Cyfannol Women’s Aid, Calan DVS, Cymorth i Fenywod Caerdydd, Gorwel a DAS Gorllewin Cymru wedi dod ynghyd i gyflwyno’r prosiect Ar Trac i blant 5-16 oed ar draws deg sir yng Nghymru.

Wedi'i lansio ym mis Ebrill 2020, mae Ar Trac yn cefnogi plant a phobl ifanc sy'n cael anawsterau â'u perthnasau teuluol a chyfoedion, ar ôl profi cam-drin domestig. Trwy fynd i'r afael â'r anawsterau hyn ac adeiladu ar gryfderau'r plant, nod y prosiect yw lleihau effaith y cam-drin a gwella lles corfforol a meddyliol yn ddiweddarach mewn bywyd.

The Ar Trac project will be delivered in Newport, Blaenau Gwent, Cardiff and the Vale, Rhondda Cynon Taff, Neath Port Talbot, Bridgend, Ceredigion, North Pembrokeshire, Gwynedd and Anglesey. Interventions will include age-appropriate group and family work and 1:1 support, drawing on research, best practice, the experience and expertise of the consortium partners, and the voices of children and young people, to ensure support meets individual needs.

Mae’r cynllun Ar Trac yn cael ei ariannu gan Grant Trydydd Sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020 i 2023 a hwn yw'r prosiect cyntaf o'i fath yng Nghymru. Daw â phum asiantaeth cam-drin domestig arbenigol ynghyd i ddarparu dull dan arweiniad consortiwm o gefnogi plant a phobl ifanc.

Bydd cefnogaeth uniongyrchol yn cael ei ddarparu gan bob sefydliad sy’n aelod o’r bartneriaeth. O'r herwydd, defnyddir y llwybrau atgyfeirio (referral) presennol i'r gwasanaethau hyn. Bydd y prosiect yn cael ei gydlynu gan Reolwr Prosiect i sicrhau dull gweithredu cyson a datblygiad priodol ym mhob maes.

Dywedodd Helen Swain, Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Fenywod Cyfannol: “Rydym yn falch iawn o arwain ar y prosiect cyffrous hwn, sydd hefyd yn nodi lansiad y consortiwm hwn o sefydliadau Cymreig ymatebol. Mae gan y partneriaid sy’n rhan o’r cynllun ddealltwriaeth ddofn o'r angen am, ac effaith, cefnogaeth arbenigol ar blant a phobl ifanc a effeithiwyd gan drais domestig. Wrth redeg y prosiect ein blaenoriaeth fydd rhoi llais i blant er mwyn sicrhau fod pob gwasanaeth newydd yn diwallu eu hanghenion. ”

1 Fel yr adroddwyd yng nghyhoeddiad Cymorth i Ferched Cymru: Mae Plant yn Bwysig: Mae Plant a Phobl Ifanc yn Profi Trais Domestig Hefyd (2019)

I ddarganfod mwy, lawrlwythwch ein taflen hyrwyddo erbyn clicio yma.

Os hoffech chi atgyfeirio i'r rhaglen, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen atgyfeirio a'i anfon at: artrac@calandvs.org.uk