Grwpiau Cefnogi Cymheiriaid

Mae gan Calan DVS ystod o Grwpiau Cefnogi Cymheiriaid (Peer Support Groups) sy'n cael eu cynnal yn wythnosol ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd, Powys a Rhydaman. Mae'r grwpiau wedi'u sefydlu er mwyn galluogi dynion i gwrdd dynion eraill a gafodd brofiadau tebyg iddyn nhw eu hunain. Mae pob un o'n grwpiau cymorth cymheiriaid yn cynnig lleoliadau cynnes, croesawgar, cyfeillgar a hefyd cyfleoedd i deimlo’n llai ynysig, i ddysgu sgiliau newydd, i gydweithio ac i gyfrannu at ddigwyddiadau Calan.

Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys;

• Grwpiau bore coffi

• Grwpiau cymorth cymheiriaid sydd wedi goroesi camdriniaeth a thrais

• Grwpiau gwirfoddoli